Skip to main content

GP Pressures

Mae Meddygfeydd Teulu ledled Newport yn profi lefelau uchel o gleifion sydd ag afiechydon anadlol ar hyn o bryd, fel peswch, y ffliw, a Covid-19, ochr yn ochr â phryderon parhaus mewn perthynas â heintiau’r Dwymyn Goch a Strep A.

 

Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y cysylltiadau brys ar yr un diwrnod, sy’n llawer uwch na’r arfer ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn, ar sail barhaus. Mae Meddygfeydd Teulu’n gwneud popeth yn eu gallu i fodloni anghenion unigolion sydd ag angen clinigol am driniaeth yr un diwrnod.

 

Oherwydd y pwysau ychwanegol hwn, gallech orfod disgwyl yn hirach na’r arfer am apwyntiadau arferol, nad ydynt yn rhai brys. Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth pan fydd angen i feddygfeydd roi’r mesurau hyn ar waith er mwyn sicrhau bod unigolion difrifol wael yn cael gofal diogel a phrydlon, yn enwedig wrth siarad â staff meddygfeydd a ‘r rhai sy’n derbyn galwadau sy’n cefnogi’r timau clinigol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

 

Mae opsiynau eraill sydd ar gael yn cynnwys:

  • Gwiriwr symptomau ar-lein 111 y GIG
  • Eich fferyllfa leol
  • Problemau Iechyd Meddwl - ffoniwch 111 a phwyswch 2 i siarad ag ymgynghorydd iechyd meddwl lleol
  • GIG 111 Cymru

 

Diolch am eich dealltwriaeth.

 

 

GP Surgeries across Newport are currently experiencing high levels of patients presenting with respiratory illnesses such as coughs, flu, and Covid-19, alongside ongoing concerns regarding Scarlet Fever and Strep A infections.

 

This has resulted in significant increase in the volume of urgent same day contacts, much higher than is usual at this time of year on an ongoing basis.  GP Practices are doing everything they can to accommodate individuals who clinically need to be dealt with the same day.

 

Due to this additional pressure, the wait for non-urgent, routine appointments may be longer than usual. We appreciate your understanding when practices need to take these measures to ensure safe and timely care for those with severe illness, especially when speaking to practice staff and call handlers who are supporting the clinical teams at this challenging time.

 

Other options available to you are:

  • NHS 111 online symptom checker
  • Your local pharmacy
  • Mental Health problems – call 111 and press 2 to speak to a local mental health advisor
  • NHS 111 Wales

 

Thank you for your understanding.

Lisa Orford-Morgan

Share: